Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (271) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Cafodd cwestiwn 9 ei drosglwyddo i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system
drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r
baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.
2. Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
0 |
10 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
4 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5781 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:
a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;
b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;
c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;
d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac
e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
42 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu tryloywder yn y
broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd yng Nghymru
drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng
Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
9 |
29 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:
a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru;
b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;
c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion;
d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw;
e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.
f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
29 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.30
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.34
NDM5782 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Gastroenteroleg - gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2015